Bythynnod Hunanddarpar ger y Trallwng yng Nghanolbarth Cymru
Mae Eleri a Gwynne yn eich croesawu i Fythynnod Llanoddian Isaf, sef dau fwthyn gwyliau hunanddarpar prydferth ar dyddyn yng nghefn gwlad Cymru.
Os ydych chi eisiau gwyliau hunanddarpar sy’n hwyl ac sy’n cynnig cyfle i ymlacio mewn lle prydferth yng Nghanolbarth Cymru, yna dyma’r lle i chi. Mae ein bythynnod gwyliau pum seren moethus yn ddewis delfrydol i deuluoedd, cyplau neu ffrindiau sydd eisiau gwyliau hunanddarpar cofiadwy.
Mae’r bythynnod hunanddarpar, Y Beudy ac Ysgubor, yn sefyll ychydig yn ôl o lôn dawel ar dyddyn yn Nolanog, ger y Trallwng. Mae ‘heddychlon’ ac ‘eidylig’ ymhlith y geiriau y mae ein gwesteion wedi’u defnyddio i ddisgrifio’u gwyliau hunanddarpar yng Nghanolbarth Cymru, ac mae’n hawdd gweld pam: gyda golygfeydd ysblennydd, dim ond defaid yn brefu i dorri’r tawelwch a 24 erw o ffermdir preifat i grwydro arno, mae Bythynnod Llanoddian yn ddihangfa perffaith i fwrw’ch gwyliau.
Mae’r bythynnod gwyliau hefyd mewn lle delfrydol ar gyfer gwyliau yng Nghanolbarth Cymru, gan eu bod nhw yng nghalon yr ardal: mae nifer o deithiau cerdded golygfaol, gan gynnwys llwybrau enwog Clawdd Offa a Llwybr Glyndŵr, o fewn cyrraedd rhwydd, yn ogystal â dewis o drefi marchnad prydferth ag amrywiaeth o siopau a bwytai.
Mae Eleri a Gwynne wedi byw yn yr ardal gydol eu hoes, ac maen nhw’n fwy na pharod i rannu eu gwybodaeth am y lleoedd gorau i ymweld â nhw, i fwyta, i siopa ac i gerdded. Maen nhw wrth eu bodd o groesawu gwesteion i’r bythynnod gwyliau, ac maen nhw bob amser yn mynd y tu hwnt i’r galw i sicrhau bod gwesteion yn cael gwyliau hunanddarpar gwych yng Nghanolbarth Cymru. Mae eu croeso cynnes, y llety hunanddarpar rhagorol a’r lleoliad prydferth yn golygu bod gwesteion yn dod yn ôl o’r naill flwyddyn i’r llall.
Mae croeso ichi edrych trwy ein gwefan, pori trwy ein lluniau prydferth a gweld pam mae Bythynnod Llanoddian Isaf yn ddewis perffaith ar gyfer eich gwyliau hunanddarpar yng Nghanolbarth Cymru.